Dyddiad 02/11/2017 Amser 7:00 pm - 8:30 pm
Y Cyngerdd
Bydd prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni, gyda chyngerdd estynedig ac arbennig iawn yn Chapter, Caerdydd yn yr hydref. Bydd yn dwyn ynghyd cerddorion byd-enwog sy’n teimlo’n angerddol am rannu cerddoriaeth siambr prin o Gymru a’r byd.
Bydd Ensemble Cymru yn canolbwyntio ar gyfansoddwyr o Gymru gyda pherfformiad o Not the Stillness gan John Metcalf a gwaith cyfansoddwr newydd ifanc o Gymru, Claire Roberts. Bydd hefyd yn gyfle prin i glywed perfformiad byw o Chamber Music No. 1 gan Martinů sydd â’r cyfuniad anghyffredin o’r delyn a’r piano.
Hyd: 90 munud (yn cynnwys egwyl 15 munud)
Y Rhaglen
Chamber Music no. 1 – Bohuslav Martinů
Piano Quartet in A minor – Gustav Mahler
Concert a Cinq – Joseph Jongen
Not the Stillness – John Metcalf
Block – Claire Roberts
Cerddoriaeth i’r delyn, piano, ffliwt, clarinét, fiola, feiolín a sielo
Tocynnau: £10 / £8 / £3
Cynnig Cynnar: £8 / £7 (archebwch erbyn 13 Hydref 2017)
Swyddfa Docynnau: 029 2030 4400 neu archebwch ar-lein yma.