Taith Penblwydd @ Galeri, Caernarfon

Dyddiad 13/11/2017 Amser 2:00 pm - 3:30 pm

Lleoliad Galeri Caernarfon

Y Cyngerdd

Bydd prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni, gyda chyngerdd estynedig ac arbennig iawn yn y Galeri yn yr hydref. Bydd yn dwyn ynghyd cerddorion byd-enwog sy’n teimlo’n angerddol am rannu cerddoriaeth siambr prin o Gymru a’r byd.

Bydd Ensemble Cymru yn canolbwyntio ar gyfansoddwyr o Gymru gyda pherfformiad o Not the Stillness gan John Metcalf a gwaith cyfansoddwr newydd ifanc o Gymru, Claire Roberts. Bydd hefyd yn gyfle prin i glywed perfformiad byw o Chamber Music No. 1 gan Martinu sydd â’r cyfuniad anghyffredin o’r delyn a’r piano.

AMSER NEWYDD: 2pm

Hyd: 90 munud (yn cynnwys egwyl 15 munud)

Y Rhaglen

Cerddoriaeth i’r delyn, piano, ffliwt, clarinét, fiola, feiolín a sielo

Chamber Music no. 1 – Bohuslav Martinů
Piano Quartet in A minor – Gustav Mahler
Concert a Cinq – Joseph Jongen
Not the Stillness – John Metcalf
Block – Claire Roberts

Tocynnau: £9 / £3
Cynnig Cynnar: £8 (book by 13 October 2017)
Swyddfa Docynnau: 01286 685 250 / www.galericaernarfon.com