DIDDYMWYD – Clasuron y Caffi

a group of musicians standing in front of Pontio Arts Centre.

Yn anffodus oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’n rheolaeth rydym ni wedi gorfod ddiddymu’r digwyddiad hwn.

Perfformwyr

Feiolin – Elenid Owen

Sielo – Nicola Pearce

Clarinét – Peryn Clement-Evans

Piano – Ellis Thomas  

Ymunwch â cherddorion Ensemble Cymru a’u gwesteion mewn rhaglen o ddarnau byr o gerddoriaeth, yn gyfarwydd ac yn newydd, o fyd ffilm, diwylliant caffi Ffrainc ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a cherddoriaeth y neuadd cerddoriaeth glasurol.

Bydd y digwyddiad hamddenol hwn yn ffordd wych o arbrofi cerddoriaeth clasurol am y tro cyntaf, neu os ydych yn awyddus i weld cerddoriaeth glasurol ar ffurf mwy hamddenol.

Manylion Archebu

Ewch i https://www.pontio.co.uk

neu ffoniwch Swyddfa Docynnau – 01248 38 28 28
Llinellau Ffôn ar agor Llun i Sadwrn 9am – 8pm a Sul 12pm – 8pm

BARGEN GYNNAR (Nes 30.10.2023) £14 /£8 myfyrwyr / £5 dan 18

31 Hydref ymlaen £16 / £10 i fyfyrwyr / £6 dan 18

Clasuron

Sonata i’r feiolín rhif 2, BWV 1003– Bach {Andante}

Triawd, Op. 38 – Beethoven  {i) Adagio – Allegro con brio}

Miroirs – Maurice Ravel {4. Alborada del gracioso}

Rhythm a Dawns

Sicilienne – Gabriel Fauré

Pièce en forme de habanera – Maurice Ravel

Prelude, Arioso and Dance – Mervyn Burtch  {3. Dance}

Cyfres, opws 157b (1936) – Darius Milhaud  { iv) Introduction et final}

Ffilm a Stori

Scheherazade, op. 35 (Y môr a llong Sinbad)  – Nikolai Rimsky-Korsakov trefnwyd gan Pablo Díaz Sánchez

Schindler’s List – John Williams

The Piano – Michael Nyman

Scheherazade, op. 35 {Y Tywysog-‘Kalandar’) – Nikolai Rimsky-Korsakov trefnwyd gan Pablo Díaz Sánchez }

Am y digwyddiad

Mae Ensemble Cymru, ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru yn cyflwyno noson o gerddoriaeth glasurol mewn awyrgylch hamddenol. Bydd Theatr Bryn Terfel ar ffurf cabaret, gyda byrddau a chadeiriau yn amgylchyu’r piano Steinway.  Bydd egwyl rhwng bob adran.

 

Rydym yn ddiolchgar i gefnogwyr Ensemble Cymru am eu haelioni er mwyn inni barhau i berfformio ac i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones a Sefydliad Reed am eu cefnogaeth.

 

Ser Lleol – Rhaglen Ensemble Cymru i amlygu crefft cerddorion lleol.

Dyddiad 09/11/2023 Amser 7:30 pm - 9:30 pm

Lleoliad Pontio - Bangor