Dyddiad 29/09/2023 Amser 11:00 am - 12:00 pm
Lleoliad Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Oherwydd amgylchiadau personol mae’r pianydd Tristian Evans wedi gorfod tynnu nôl o’r perfformiad. Rydym yn ddiolchgar i Iwan Llewelyn-Jones am gytuno i gymryd ei le ar fyr rybudd.
Sylwer os gwelwch yn dda newidiadau sylweddol i’r rhaglen. Cysylltwch â Neuadd Dwyfor i ail-drefnu tocynnau os gwelwch yn dda.
Digwyddiad cymdeithasol ymlaciedig ar gyfer cefnogwyr cerddoriaeth glasurol Neuadd Dwyfor. Bydd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn ymuno a phrif glarinetydd Ensemble Cymru mewn rhaglen o gerddoriaeth i’r piano a clarinet i ddathlu dychwelyd Ensemble Cymru i Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd.
Tocynnau: £10, £6 Addysg Llawn Amser.
Swyddfa Docynnau: www.neuadddwyfor.cymru
Tocynnau arlein: Ensemble Cymru: Cyngerdd Boreol / Morning Concert (ticketsolve.com)
Ffôn : 01758 704088
Rhaglen diwygiedig (19-09-2023)
Canzonetta – Gabriel Pierné
Sonata Ffantasi – John Ireland
5 Preliwd Dawns (ii) Andantino – Witold Lutoslawski
Preliwd Corawl , “Nun komm’ der Heiden Heiland“ BWV 659
trefn ar gyfer unawd piano gan Ferruccio Busoni
Sonata i’r clarinét op. 120, rhif 2 (ii Allegro Appassionato) – Johannes Brahms
Sonata i’r clarinét (ii Allegro Animato) – Camille Saint-Saëns
Sonatina (iii) Con Brio – Joseph Horowitz