Digwyddiad cymdeithasol ymlaciedig ar gyfer cefnogwyr cerddoriaeth glasurol Canolfan Ucheldre. Bydd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn ymuno a phrif glarinetydd Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans mewn rhaglen o gerddoriaeth i’r piano a clarinet i ddathlu dychwelyd Ensemble Cymru i Ganolfan Ucheldre.
Tocynnau: £10, £6 Addysg Llawn Amser.
Swyddfa Docynnau: Canolfan Ucheldre Centre – Canolfan y celfyddydau perfformio a gweledol yn Ynys Môn, Gogledd Cymru
Ffôn : 01407 763361
Rhaglen
Canzonetta – Gabriel Pierné
Sonata Ffantasi – John Ireland
5 Preliwd Dawns (ii) Andantino – Witold Lutoslawski
Preliwd Corawl , “Nun komm’ der Heiden Heiland“ BWV 659
trefn ar gyfer unawd piano gan Ferruccio Busoni
Sonata i’r clarinét op. 120, rhif 2 (ii Allegro Appassionato) – Johannes Brahms
Sonata i’r clarinét (ii Allegro Animato) – Camille Saint-Saëns
Sonatina (iii) Con Brio – Joseph Horowitz
Dyddiad 29/10/2023 Amser 3:00 pm - 4:00 pm