Dyddiad 12/02/2017 Amser 3:00 pm - 4:00 pm
Lleoliad Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Chwefror 2017
(Feiolin, Clarinét, Piano)
Yn Chwefror 2017 bydd y feiolinydd Florence Cooke a Richard Ormrod (piano) yn ymuno â ni i roi rhaglen gyffrous ac amrywiol, yn cynnwys Sonata Mozart i’r Piano a Feiolin yn B feddalnod (cyfuniad perffaith gyda choffi’r bore!)
Hefyd cyflwynir ‘Contrasts’ gan Béla Bartók, darn a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin Dwyrain Ewrop, a’r gwaith trawiadol o egnïol ‘Suite for Clarinet, Violin and Piano’ gan y cyfansoddwr Ffrengig hynod wreiddiol, Darius Milhaud.
Rhaglen:
Mozart – Sonata yn Bb fwyaf, K. 378
Béla Bartók – Contrasts, Sz.111
Darius Milhaud – Cyfres, Op. 157b
Perfformwyr:
Feiolín – Florence Cooke
Clarinét – Peryn Clement-Evans
Piano – Richard Ormrod
Tocynnau:
Llawn: £10
Myfyrwyr: £3
Gwybodaeth Archebu:
Ar-lein: aberystwythartscentre.co.uk
Ffôn: 01970 62 32 32
Cyngerdd Preliwd – 2:15 y.h
Mae Ensemble Cymru a Gwasanaeth Cerdd Ceredigion wedi ymuno i greu Academi Siambr – y cyntaf un yn Aberystwyth. Pwrpas Yr Academi yw i alluogi cerddorion ifanc o’r ardal i gymryd rhan mewn gweithdai a dosbarthiadau meistr ochr yn ochr â cherddorion Ensemble Cymru.
Mi fydd y gweithdy Academi Siambr, cyntaf oll, yn cael ei chynnal ar ddydd Sul 12fed o Chwefror. Fel rhan o’r profiad Academi, mi fydd y disgyblion yn cynnal perfformiad cyhoeddus, yn rhad ac am ddim, am 2:15 y.h, o flaen cyngerdd Ensemble Cymru am 3 y.h. Bydd y cyngerdd rhagarweiniad arbennig yma yn cynnwys dau bedwarawd (ffliwt, ffidil, fiola a sielo) yn perfformio Pedwarawd Ffliwt Mozart yn D Major.