Cyngerdd Coffi – Capel Gad, Cilcain

Anne Denholm, Royal Harpist ©Jerome Woodwark

Cyngerdd Tachwedd

Telyn, Ffliwt, Clarinét, Basŵn

Yn Nhachwedd 2016 ceir rhaglen ryngwladol gyffrous, yn cynnwys sonatas o’r cyfnodau Baróc a Chlasurol cynnar gan Vivaldi a C.P.E. Bach, ynghyd â’r ‘Capriccio’ bywiog gan Franz Poenitz a ‘Deialogau’ gan y cyfansoddwr Cymreig nodedig Mervyn Burtch – pryd y bydd ein prif ffliwtydd, Jonathan Rimmer, yn ymuno â’r Delynores Frenhinol, Anne Denholm.

Mae Ensemble Cymru’n hynod falch o groesawu Anne Denholm, Telynores Swyddogol Tywysog Cymru, fel Prif Delynores am dymor 2016-17. Anne yw’r cyntaf i dderbyn y Gadair Ryngwladol Gaynor-Cemlyn-Jones i’r Delyn.

AMSER NEWYDD – cyngerdd yn dechrau am 7 pm!

Rhaglen:

CPE Bach – Sonata yn G leiaf H542.5 (BWV 1020)
Vivaldi – Sonata yn E leiaf RV 40
Mervyn Burtch – Deialogau
Fr. Poenitz – Capriccio Op. 73

Rosy Wertheim – Triawd

Berlioz E. –  L’Enfance du Christ – Trio des Ismaëlites

Perfformwyr:

Anne Denholm – Telyn
Jonathan Rimmer – Ffliwt
Peryn Clement-Evans – Clarinét
Llinos Elin Owen – Basŵn

Tocynnau:

Y Cynnig Cynnar! Tocynnau: £8.50* 

*Archebu erbyn 30 Medi 2016 er mwyn arbed £££

Llawn: £10

Myfyrwyr ac o dan 18: £3

Tocyn tymor: £25.50**

**Mae’r pris yn cynnwys tocynnau ar gyfer y tri chyngerdd yn y gyfres. Cewch raglen am ddim wrth ddangos eich tocyn tymor.

Gwybodaeth Archebu:
Ar-lein: www.ensemble.cymru
Ffôn: 01248 383 257

Dyddiad 01/11/2016 Amser 7:00 pm - 8:00 pm

Lleoliad Capel Gad, Cilcain, Sir Fflint