Dyddiad 05/11/2016 Amser 10:30 am - 11:30 am
Cyngerdd Tachwedd
Telyn, Ffliwt, Clarinét, Basŵn
Yn Nhachwedd 2016 ceir rhaglen ryngwladol gyffrous, yn cynnwys sonatas o’r cyfnodau Baróc a Chlasurol cynnar gan Vivaldi a C.P.E. Bach, ynghyd â’r ‘Capriccio’ bywiog gan Franz Poenitz a ‘Deialogau’ gan y cyfansoddwr Cymreig nodedig Mervyn Burtch – pryd y bydd ein prif ffliwtydd, Jonathan Rimmer, yn ymuno â’r Delynores Frenhinol, Anne Denholm.
Mae Ensemble Cymru’n hynod falch o groesawu Anne Denholm, Telynores Swyddogol Tywysog Cymru, fel Prif Delynores am dymor 2016-17. Anne yw’r cyntaf i dderbyn y Gadair Ryngwladol Gaynor-Cemlyn-Jones i’r Delyn.
Rhaglen:
CPE Bach – Sonata yn G leiaf H542.5 (BWV 1020)
Vivaldi – Sonata yn E leiaf RV 40
Mervyn Burtch – Deialogau
Fr. Poenitz – Capriccio Op. 73
Rosy Wertheim – Triawd
Berlioz E. – L’Enfance du Christ – Trio des Ismaëlites
Perfformwyr:
Anne Denholm – Telyn
Jonathan Rimmer – Ffliwt
Peryn Clement-Evans – Clarinét
Llinos Elin Owen – Basŵn
Tocynnau:
Y Cynnig Cynnar!
Dim ffi os ydych yn bwcio erbyn 30 Medi 2016
Llawn: £10*
Myfyrwyr | Plentyn: £3*
Tocyn tymor (Dydd Iau): £30**
Tocyn Tymor (Dydd Sadwrn): £27**
*Codir ffi bwcio
**Mae’r pris yn cynnwys tocynnau ar gyfer y tri chyngerdd yn y gyfres. Cewch raglen am ddim wrth ddangos eich tocyn tymor.
Mwynhau coffi a lluniaeth am ddim
Gwybodaeth Archebu:
Ar-lein: www.venuecymru.co.uk
Ffôn: 01492 872 000