Cyngerdd Coffi – Venue Cymru, Llandudno

Dyddiad 04/05/2017 Amser 10:30 am - 11:30 am

Mai 2017

(Ffliwt, Feiolin, Fiola, Sielo, Telyn)

Bydd y delynores Anne Denholm, ynghyd â’r prif ffliwtydd Jonathan Rimmer a’r feiolinydd Lucy Nolan, yn dod â’r byd naturiol yn fyw i ni drwy chwarae ‘Between Earth and Sea’ gan Sally Beamish, a ‘From the Song of Amergin’ gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann.  Bydd y triawd Debussyaidd hwn hefyd yn dod â thelynegiaeth fyfyriol ac ingol ‘Elegiac Trio’ Arnold Bax i ni.

Bydd y feiolinydd Elenid Owen a Heather Bills (sielo) yn ymuno â ni i berfformio darn gwefreiddiol gan Mozart, sef y Pedwarawd  Rhif 1 yn D fwyaf i’r Ffliwt.

Rhaglen:

Sally Beamish – Between Earth and Sea (1997)
Hilary Tann – From the Song of Amergin
Arnold Bax – Triawd Marwnadol  (1916)
Mozart – Pedwarawd i’r Ffliwt Rhif 1 yn D fwyaf, K. 285

Perfformwyr:

Ffliwt – Jonathan Rimmer
Feiolin – Elenid Owen
Fiola – Lucy Nolan
Sielo – Heather Bills
Harp – Anne Denholm

Tocynnau:

Llawn: £10*

Myfyrwyr | Plentyn: £3*

*Codir ffi bwcio

Gwybodaeth Archebu:

Ffôn: 01492 872 000

Ar-lein: www.venuecymru.co.uk