Llandudno,
CONWY LL30 2SY
Yn dilyn ymgyrch ddiweddaraf THE BIG GIVE mae’r cyngerdd hwn yn gyfle i ni ddweud “DIOLCH” i’r cyhoedd am ein helpu i godi £25,000 tuag at ein cenhadaeth o godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth siambr glasurol yng Nghymru. Ymunwch â Peryn Clement-Evans (Clarinet), Nicola Pearce (Soddgrwth) a’r pianydd Christina Mason-Scheuermann dros baned a chacen am 45 munud o gerddoriaeth glasurol hudolus a sgwrs yn adeilad hyfryd Eglwys y Gloddaeth, Llandudno. Bydd y rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth ysgafn gan Schubert, Glinka a Benny Goodman.
Mynediad am ddim, ond bydd casgliad wrth y drws.
Hefyd, dewch i rannu eich syniadau am ddyfodol Ensemble Cymru yn Llandudno. Ble’r hoffech chi ein gweld yn perfformio? Pa fath o ddarnau yr hoffech chi eu clywed? Pa fath o weithgareddau cymunedol yr hoffech chi i Ensemble Cymru gymryd rhan ynddyn nhw?
Croeso cynnes i bawb!
Dyddiad 23/05/2019 Amser 10:30 am - 11:30 am
Lleoliad Eglwys Gloddaeth, Llandudno