Dathlu Pen-blwydd Ensemble Cymru yn 15 oed

Noson o Ddathlu gydag Ensemble Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd

17 Mai 2017 am 6 – 7.30 pm

Noddir gan Sîan Gwenllian (AS Arfon)

Yn 2002, mewn gŵyl gerddoriaeth fach yng Ngogledd Cymru, perfformiodd Ensemble Cymru eu  cyngerdd cyntaf. Pymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae Ensemble Cymru fel rhan o’u cylchdaith genedlaethol,  yn perfformio i dros 5,000 o bobl y flwyddyn, yn ogystal â pherfformio i gynulleidfaoedd ar draws y byd fel rhan o’u gwaith rhyngwladol.

Mae ein hamgylchiadau fel Ensemble Cymru wedi newid ers i ni ddechrau yn 2002 ond mae’r un amcan sylfaenol yn parhau yn ddiysgog; sef cyflwyno cerddoriaeth siambr o’r safon uchaf i gymunedau ledled Cymru ac i arddangos y gorau o gerddoriaeth siambr Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

Cymunedau

Fel yr unig ensemble llawn amser tu allan i Gaerdydd, rydym yn gadarn o’r farn na ddylai ffactorau daearyddol, economaidd na chymdeithasol fod yn rhwystr i fwynhau neu ymarfer cerddoriaeth glasurol neu gelfydd yn ei chyfanrwydd. Yr ydym, felly, yn angerddol dros ddod â cherddoriaeth glasurol o’r ansawdd uchaf i gymunedau ac i gynulleidfaoedd, efallai  na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i brofi perfformiad byw.

 

Cerddorion Ifanc

Drwy ein ‘Academi Siambr’ rydym yn rhoi’r cyfle i gerddorion ifanc a chyfansoddwyr gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gweithdai dan arweiniad rhai o berfformwyr cerddoriaeth glasurol fwyaf blaenllaw’r wlad. Yn aml, penllanw’r gweithdai yw cyngerdd preliwd gan roi profiad gwerthfawr o berfformio’n gyhoeddus ar yr un llwyfan ag Ensemble Cymru.

Mae hyn, ynghyd â’n hymrwymiad i hyrwyddo gwaith newydd a rhoi llwyfan i gyfansoddwyr o Gymru ar ddechrau eu gyrfa yn helpu i godi proffil cerddoriaeth siambr Cymru, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion a chreu dyfodol cadarn a chyffrous i gerddoriaeth glasurol.


Gwaith Rhyngwladol

Er bod Ensemble Cymru wedi eu gwreiddio yng nghymunedau Cymru, mae ein hagwedd yn un ryngwladol. Gyda chysylltiadau byd-eang yn datblygu – o’r Swistir i Tsiena,  yr amcan yw hyrwyddo cerddoriaeth siambr o bob cwr o’r byd yng Nghymru a cherddoriaeth siambr Gymraeg i bobl yng Nghymru a thu hwnt.

 

Digwyddiad pen-blwydd 15 oed

Er mwyn dathlu ein pen-blwydd yn 15 oed, byddem yn falch iawn pe baech yn ymuno â ni am noson arbennig iawn, a noddir gan yr Aelod Seneddol Siân Gwenllian.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher 17 Mai, gan  ddechrau am 6 o’r gloch.

Bydd y noson yn cynnwys lluniaeth a pherfformiad byr gan gerddorion Ensemble Cymru yn cynnwys ein prif delynores Anne Denholm (Telynores Frenhinol Tywysog Cymru), a’r clarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig, Peryn Clement-Evans.

Rydym yn awyddus i rannu ein hangerdd am gerddoriaeth a’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol cerddoriaeth Siambr Cymru gyda chi.

Ateber os gwelwch yn dda erbyn 1 Mai 2017.

 

Gobeithiwn yn gallwch ymuno â ni yn ein dathliadau.

Dyddiad 17/05/2017 Amser 6:00 pm - 7:30 pm

Lleoliad National Assembly for Wales