Gwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2023

Head and shoulder images of performers in festival's morning concert. Left to right Clarinettist, peryn Clement-Evans in blue shirt, Iwan

Dyddiad 28/09/2023 Amser 11:30 am - 12:30 pm

Lleoliad Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Peryn Clement-Evans – clarinét
Iwan Llewelyn-Jones – piano
Aled Lewis Evans- Darllenydd a bardd

Bydd y clarinetydd Peryn Clement-Evans a’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth siambr wedi’i hysbrydoli gan farddoniaeth a ddewiswyd gan Aled Lewis Evans ar y thema gorwelion gyda darlleniadau gan y bardd.

Bydd Aled yn darllen detholiad o’i gerddi ei hun am Orwelion, yn ogystal ag ambell un gan lenorion eraill, gna gynnwys ei Daid, y bardd John Evans (Siôn Ifan) Byddai’r ddau wedi rhannu yr un gorwel yn eu plentyndod – Aled yn y Bermo, a’i daid ychydig i’r gogledd ar yr arfordir yn Nyffryn Ardudwy a Thalybont. Byddai’r ddau wedi gweld yr un gwyrthiau yn y bae. Mae’r dewisiadau cerddorol gan Peryn, Ensemble Cymru ac Iwan Llewelyn-Jones yn gweddu i’r darnau llefaru, ac yn ymateb yn uniongyrchol i rai ohonynt.

Rhaglen

Canzonetta – Gabriel Pierné

Y Gorwel – Dewi Emrys
Sonata Ffantasi – John Ireland

Ynys y Brawd – Aled Lewis Evans
5 Preliwd Dawns (ii) Andantino – Witold Lutoslawski

Diweddglo Awdl y Gorwel – John Evans
Preliwd Corawl , “Nun komm’ der Heiden Heiland“ BWV 659
trefn ar gyfer unawd piano gan Ferruccio Busoni

Y Caeau Aur – Iwan Llwyd
Fields of Gold – Sting

Troad y Rhod 2020 – Aled Lewis Evans
Sonatina (iii) Con Brio – Joseph Horowitz

Gwybodaeth archebu

Yr holl docynnau yn £12. Mae tocynnau i blant yn hanner pris.

Cathedral Frames, Llanelwy – 01745 582929 (Mer – Gwe, 10 – 4)

Mae tocynnau ar gyfer perfformiad yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ar gael o swyddfa docynnau Theatr Clwyd.

Er mwyn prynnu tocynnau naill ai ffoniwch swyddfa docynnau Theatr Clwyd ar 01352 344 101 neu ewch i www.theatrclwyd.com/cy/event/nwimf-ensemble-cymru-aled-lewis-evans i archebu tocyn arlein.

I gael mwy o wybodaeth gan gynnwys telerau ac amodau ar gyfer tocynnau ewch i https://nwimf.com/

 

I mi, mae barddoniaeth a cherddoriaeth yn ein hysgogi i symud y tu hwnt i’n gorwelion emosiynol a deallusol gwahanol ein hunain. Daeth Sonata Ffantasi John Ireland yn rhwydd i’r meddwl wrth ddarllen Gorwel, Dewi Emrys, ac yn arbennig y defnydd o’r gair rhith. Aeth Iwan a mi am gerddoriaeth trosgynnol Bach ar gyfer ‘Ymhell o afael byd mall’, yng ngeiriau hyfryd John Evans. Mae rhythmau chwareus a bywiog Horowitz yn mynegi, trwy gerddoriaeth, eiriau optimistig Aled wrth i’r bardd ddathlu’r diwrnod byrraf gan wybod na all golau’r dydd ond ymestyn.

Mae’r perfformiad hwn yn deyrnged i Ann ym mlwyddyn olaf ei harweinyddiaeth yn yr Ŵyl. Mae Ann wedi dangos y fath garedigrwydd (ac amynedd!) ar hyd y blynyddoedd. Mae’r Ŵyl wedi bod yn rhan fawr o hanes 22 mlynedd Ensemble Cymru. Mae wedi galluogi cerddorion a chyfansoddwyr i barhau i rannu eu cariad at y ffurf gelf hardd hon o gerddoriaeth siambr, tra’n dangos ei pherthnasedd parhaus i gynifer o filoedd o blant a phobl o bob rhan o ogledd Cymru yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

© Peryn Clement-Evans (Cyfarwyddwr Artistig)