Dyddiad 01/10/2021 Amser 7:30 pm - 8:30 pm
Lleoliad Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Yn ei berfformiad personol cyntaf ers cloi, mae Ensemble Cymru yn perfformio gwaith Bach, Beethoven, Mared Emlyn, Mererid Hopwood, Claire Roberts a Samuel Coleridge-Taylor yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.
Gwybodaeth bwcio
Mae tocynnau ar gyfer perfformiad yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ar gael o swyddfa docynnau Theatr Clwyd.
Er mwyn prynnu tocynnau naill ai ffoniwch swyddfa docynnau Theatr Clwyd ar 01352 344 101 neu ewch i https://www.theatrclwyd.com/event/ensemble-cymru i archebu tocyn arlein.
I gael mwy o wybodaeth gan gynnwys telerau ac amodau ar gyfer tocynnau ynghyd â gwybodaeth pwysig am COVID-19, ewch i https://nwimf.com/
Am y perfformiad
Yn ei berfformiad cyntaf ers cyfnod clo, bydd Ensemble Cymru yn perfformio gwaith Bach, Beethoven, Mared Emlyn, Mererid Hopwood, Claire Roberts a Samuel Coleridge-Taylor.
Mae’r rhalgen yn amlygu podlediadau gwnaeth yr Ensemble eu creu ar gyfer plant a theuluoedd yn ystod cyfnod clo gyda cherddoriaeth a geiriau gan Mererid Hopwood, Mared Emlyn a Claire Victoria Roberts.
Mae cynnwys cerddoriaeth ar gyfer clarinét a phedwarawd llinynnol gan Samuel Coleridge-Taylor yn adlewyrchu ein ymrwymiad parhaol bod ein cerddorion, cyfansoddwyr a cherddoriaeth yn cynrychioli’r cyfoethogrwydd ac amrywiaeth o draddodiadau a diwylliannau o’r cymunedau ac ysgolion rydym yn gweithio â nhw.
Cydnabyddiadau
Mae’r canlynol yn cefnogi a felly yn gwneud yn bosib y perfformiad hwn:
- Elusen James Hutchings er cof Jamie
- Cyfeillion a rhoddwyr Ensemble Cymru
- Arian a godwyd gan Gwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru gan gynnwys y Loteri a ddosranwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru.
Manylion y Rhaglen
Cerddoriaeth
Preliwd o Gyfres ar gyfer unawd sielo, Rhif 1 yn G fwyaf gan Johann Sebastian Bach
Aria gydag Amrywiaethau o Ddeuawd ar gyfer clarinét a sielo, Rhif 3 yn Bb fwyaf, WoO 27 gan Ludwig van Beethoven
Mynydd Llyn-y-Fan Fawr ar gyfer unawd feiolín gan Claire Victoria Roberts
Cynghanedd y Coed gan Mared Emlyn gyda geiriau gan Mererid Hopwood
Pumawd i’r clarinét a phedwarawd llinynnol yn F#, op. 10 gan Samuel Coleridge-Taylor
Hyd y perfformiad yw 60-70 munud
Perfformwyr
Clarinét – Peryn Clement-Evans
Feiolinau – Elenid Owen a Mary Hofman
Fiola – Dáire Roberts
Sielo – Nia Harries
Telyn – Mared Emlyn