PrifLwyfannau OCC taith gwanwyn 2023 cyflwyno Hansel a Gretel Humperdinck.
Daw tymor straeon tylwyth teg Opera Canolbarth Cymru i ben gyda chynhyrchiad newydd o glasur Humperdinck o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Hansel a Gretel. Fe’i seilir ar stori dylwyth teg y brodyr Grimm, lle caiff dau blentyn eu halltudio i’r goedwig gan eu rhieni rhwystredig a newynog. Yno, maent yn crwydro i grafangau gwrach ddrwg sydd â’i bryd ar eu pesgi a’u troi yn dorthau sinsir, cyn cael ei threchu ar yr eiliad dyngedfennol.
Cenir y cynhyrchiad newydd hwn yn Saesneg gyda chast o gantorion ifanc proffesiynol, a bydd corws o blant lleol i’r theatr yn ymuno ym mhob lleoliad. Creodd Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness, offeryniaeth newydd arbennig ar gyfer sgôr wyrthiol Humperdinck, a berfformir gan gerddorfa bartner OCC, Ensemble Cymru.
Am fanylion llawn ac archebu ewch i:
Dyddiad 07/03/2023 Amser 7:00 pm - 9:00 pm
Lleoliad Theatr Clwyd