Landmarks

Ensemble Cymru rehearsals at the Amadeus Centre, Maida Vale, London.

Bydd Ensemble Cymru yn perfformio peth o’r gerddoriaeth siambr orau gan gyfansoddwyr benywaidd yn y cyngerdd nodedig hwn.

Rhoddir y sylw pennaf I Sextet gan Grace Williams, sef darn o waith nas perfformir yn aml ac sy’n cael ei hyrwyddo gan yr Ensemble. Mae’n cynnwys rhan flaenllaw i’r trwmped, sef hoff offeryn y gyfansoddwraig o Gymru. Mae triawd hiraethus Hilary Tann, The Walls of Castell Morlais, wedi ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan adfeilion y castell o’r 13eg ganrif ger Merthyr Tudful, ac mae naws y jig Wyddelig wrth wraidd y Phantasy Trio deinamig gan Rhian Samuel. Bydd yr Ensemble hefyd yn perfformio Block, triawd newydd gan y cyfansoddwr ifanc o Gymru, Claire Victoria Roberts (enillydd Gwobr Gyfansoddi William Mathias 2017), a bydd y bariton Jeremy Huw Williams yn ymuno a nhw ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o The Swan gan Nicola LeFanu.

Ensemble Cymru – Huw Clement-Evans (obo), Cai Isfryn (trwmped), Florence Cooke (feiolín), Sara Roberts (fiola), Heather Bills (sielo) a Harvey Davies (piano).

Mae’r cyngerdd yn rhan o’r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor 2017.

Tocynnau: £10
Gostyngiad o 10% i grwpiau o 10 neu fwy

Swyddfa Docynnau: www.pontio.co.uk / 01248 38 28 28

Dyddiad 04/09/2017 Amser 5:45 pm - 6:45 pm