Dyddiad 14/03/2024 Amser 7:30 pm - 9:30 pm
Lleoliad Glan yr Afon
Mae un o ddramâu mwyaf Shakespeare hefyd yn un o operâu mwyaf Verdi. Dewch i brofi hanes gwefreiddiol am bŵer, ystryw a chwymp echryslon wrth i Macbeth, cadfridog dewr, ildio i berswâd ei wraig, sy’n arwain at ymgyrch ddidrugaredd i ennill gorsedd yr Alban. Sgôr syfrdanol Verdi, gyda’i felodïau ysgubol a’i harmonïau cywrain, sy’n gyrru’r naratif seicolegol gwefreiddiol ac mae Act 4 yn cyflwyno tro modern gyda’r corws hiraethus o ffoaduriaid. Caiff yr opera ei chanu yn Saesneg, gyda chyfeiliant Ensemble Cymru, cast eang a chorysau cymunedol. Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru ei gynhyrchiad cyntaf erioed o Macbeth Verdi fel uchafbwynt tymor Shakespeare.
Am fanylion llawn ac archebu ewch i: