Opera Canolbarth Cymru: Eugene Onegin

Ensemble Cymru yn falch iawn o gydweithio gyda Opera Canolbarth Cymru ar y cynhyrchiad hwn…

Cyfuna Eugene Onegin hanes nerthol a thorcalonnus Pushkin gyda thelynegiaeth ysgubol Tchaikovsky mewn ymchwiliad syfrdanol o gariad, marwolaeth, bywyd a chonfensiwn.

Mae’r hanes ingol, sy’n llawn ariâu rhyfeddol gan gynnwys golygfa wych Tatyana am y llythyr, gorchest repertoire y soprano, yn cyferbynnu symlrwydd bywyd cefn gwlad â gormodedd soffistigedig llys cyn-chwyldroadol Rwsia ac yn dweud hanes y cariad tynghedlon rhwng Tatyana ddiniwed a’r sinig lluddedig Onegin.

Mae’r cast gwych yn cynnwys sêr newydd a pherfformwyr rhyngwladol cydnabyddedig. Arweinir y perfformiad gan Gyfarwyddwyr Artistig OCC, Richard Studer a Jonathan Lyness, i gyfeiliant Ensemble Cymru. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu swyno a’u cyffroi i’w craidd.

Dyddiadau’r Daith

24 Chwefror 2018 –  Theatr Hafren, Drenewydd. www.thehafren.co.uk / 01686 614555
28 Chwefror 2018 – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. www.aberystwythartscentre.co.uk / 01970 623232
8 Mawrth 2018 – Pontio, Bangor. www.pontio.co.uk / 01248 382828
6 Mawrth 2018 – Glan yr Afon, Casnewydd. www.tickets.newportlive.co.uk / 01633 656757
18 Mawrth 2018 – Theatr Clwyd, yr Wyddgrug. www.theatrclwyd.com/ 01352 701521
21 Mawrth 2018 – Theatr Brycheiniog, Aberhonddu. www.brycheiniog.co.uk / 01874 611622
29 Mawrth 2018 – Theatr Ffwrnes, Llanelli. www.theatrausirgar.co.uk / 0845 2263510
4 Ebrill 2018 – Theatr y Torch, Aberdaugleddau. www.torchtheatre.co.uk / 01646 695267
10 Ebrill 2018 – Courtyard Arts Centre, Hereford. www.courtyard.org.uk / 01432 340555

Ewch i wefan Opera Canolbarth Cymru ar gyfer gwybodaeth archebu.

Dyddiad 24/02/2018 - 10/05/2018 Amser 7:30 pm