Mozart Menai

Dyddiad 21/08/2015 Amser 7:30 pm - 9:10 pm

Ar drothwy Gŵyl Bwyd Môr Menai, ymlaciwch gyda noson o gerddoriaeth Mozart yn cael ei berfformio ar fin y dŵr gan Ensemble Cymru.

Pa ffordd well o ddarganfod a mwynhau harddwch gwaith siambr Mozart?

Bydd y darnau, yn cael eu chwarae gan brif berfformwyr Ensemble Cymru, yn cynnwys darnau o felodi hiraethus y Pumawd Clarinét yn A, K.581, y Pedwarawd Clarinét chwareus yn F, K.370 a’r Bedwarawd Ffliwt fywiog yn D, K.285, un o bedair o gyfansoddiadau cynnar Mozart i’r ffliwt.

Mae’r tocynnau’n £10.00 y pen (£8 i Gyfeillion Ensemble Cymru).

Bydd y darnau a berfformir yn cynnwys y canlynol:

Clarinét – Peryn Clement-Evans

Ffliwt – Jonathan Rimmer

Obo – Alun Darbyshire (Artist Gwadd)Yn wreiddiol o Fôn, mae Alun wedi perfformio fel unawdydd gyda Cherddorfa’r London Festival, Cerddorfa’r Northern Chamber, y Brighton Philharmonic, Ensemble Adderbury a’r Northern Sinfonia.

Fiolinau: Christiana Mavron, Mary Hofman

Fiola: Thomas Kirby

Soddgrwth:Nicola Pearce

Bydd lletygarwch gan Blas Rhianfa ac Ye Olde Bull’s Head hefyd ar gael yn y digwyddiad unigryw hwn.

Archebu

Nid yw'r digwyddiad hwn yn derbyn mwy o archebion arlein.