Mozart@CILCAIN 22/03/22


Dyma gyngerdd i lansio menter newydd cyffrous gydag ein cyfeillion yng Ngwyl Cilcain wrth i gerddorion yr Ensemble gymryd eu camau cyntaf i greu a rhannu cerddoriaeth unwaith eto gyda chi yn fyw.

Bydd y rhaglen isod yn amlygu y Pumawd i’r clarinét gan Mozart yn acwsteg hyfryd Capel Gad Cilcain.

Perfformwyr

  • Clarinét: Peryn Clement-Evans
  • Feiolinau: Elenid Owen, Mary Hofman
  • Fiola: Dáire Roberts
  • Sielo: Nicola Pearce

Rhaglen

  • MOZART, W. A – Pumawd i’r clarinét yn A fwyaf, K.581

Mynediant

Does dim taliad angen ond mae’n rhaid gofrestru am docyn ymlaen llaw ar y ffurflen isod.

Pe ddiddymir y digwyddiad am unrhyw reswm bydd Ensemble Cymru yn ceisio ei ail-drefnu.

Cefnogwyr

Rydym yn dra ddiolchgar i gyfeillion Ensemble Cymru sy’n rhoi mor hael tuag at yr achos yn rheolaidd.  Hebddoch chi fyddai gwaith Ensemble Cymru ddim yn bosib. Diolch o galon.

Dyddiad 22/03/2022 Amser 11:00 am - 11:50 am

Lleoliad Capel Gad, Cilcain, Sir Fflint