LANSIAD SWYDDOGOL…

Arddangos a chyhoeddi’r Diwrnod Cenedlaethol Cerddoriaeth Siambr cyntaf, Cymru 2018

Ymunwch â ni ar gyfer Rhagolwg y Tymor yng Nghadeirlan Llanelwy, sy’n cael ei gynnal gydag ein cyfeillion yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

Bydd Cyfarwyddwraig Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, a Chyfarwyddwraig Artistig  yr ŵyl, Ann Atkinson yn cyhoeddi’r dathliad cenedlaethol cyntaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru ym mis Medi 2018, sef Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol Cymru.

Bydd perfformiad byw gan gerddorion Ensemble Cymru fel rhagolwg unigryw o’r tymor newydd.

Bydd hyrwyddwyr cerddoriaeth siambr o ledled Cymru yn bresennol hefyd.  Felly bydd yn gyfle i ddarganfod digwyddiadau gerddoriaeth eraill yn eich ardal.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Dyddiad 29/09/2017 Amser 10:00 am - 12:00 pm