Dyddiad 10/03/2022 Amser 7:30 pm - 9:30 pm
Lleoliad Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
Cyflwyna Prif Lwyfannau Opera Canolbarth Cymru daith gwanwyn 2022 o La bohème gan Puccini.
Ensemble yr opera: Ensemble Cymru
Mae’n Noswyl y Nadolig, uwch strydoedd Paris mae cnoc ar y drws yn ddechrau i stori garu ddiamser y bardd Rodolfo a’i gymdoges, Mimi. Teimla eu carwriaeth ledrithiol fel gwyrth y Nadolig, ond mae ias oer y gaeaf yn drech na gwres eu nwyd – mae Mimi yn ddifrifol wael, ac ni all Rodolfo na’i gyd-fohemiaid fforddio’r help sydd ei angen arni.
O groglofft myfyriwr i strydoedd bywiog Montmartre, mae gorchestwaith Puccini’n dathlu grym cariad a chyfeillgarwch. Ensemble Cymru sy’n perfformio sgôr odidog o atgofus Puccini, gyda rhai o ariâu mwyaf poblogaidd y byd opera yn creu naws caffi ym Mharis yn ogystal â realiti oeraidd ffordd o fyw o’r llaw i’r genau y bohemiaid.
Am fanylion llawn ac archebu ewch i: