Dyma berfformiad cyntaf o “Pilgrimages’ gwaith siambr ar gyfer ensembl mawr gan Ellen Davies. Perfformir y gwaith gan Ensemble Cymru gan roi sylw i’w brif Delynores, Anne Denholm (Telynores Swyddogol Ei Ucheldre Brenhinol Tywysog Cymru) a’i Brif Offerynnwr Taro, Dewi Ellis Jones. Ysbrydolwyd y cyfansoddiad gan 3 cerdd gan RS Thomas a thirwedd pen Llŷn. Gan ymgorffori seiniau glan y môr a’r môr – yn dod â’r Llŷn i Fangor.
Tocynnau: Am ddim, ond bydd angen i chi gofrestru am docyn yma.
I ddarganfod mwy am ŵyl RS Thomas, ewch i wefan yr ŵyl yma.
Dyddiad 01/07/2018 Amser 2:30 pm - 3:30 pm