Schubert – Pontio, Bangor

Schubert

Dyddiad 03/11/2019 Amser 3:00 pm - 4:30 pm

Lleoliad Pontio - Bangor

Mae Ensemble Cymru, sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, yn perfformio unwaith eto yn Pontio, gyda rhaglen ddelfrydol sy’n cynnwys Wythawd enwog Schubert – gwaith sylweddol i’w gyflawni ym myd cerddoriaeth siambr, sy’n parhau i swyno’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled y byd – ochr yn ochr â theyrnged Gymreig gyfoes o waith y cyfansoddwr, John Metcalf, i’r ffigwr hanesyddol mawr hwn.
“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel un sy’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel

Rhaglen

Wythawd yn F fwyaf. D 803 (1824) – Schubert
Wythawd (2018) – John Metcalf

Codi Canu gyda Schubert
 Digwyddiad cyn–cyngerdd yn arbennig ar gyfer Pontio
 2.30pm

 Cyn y gyngerdd, ymunwch ag offerynwyr, cantorion lleol ac Ensemble Cymru am gyflwyniad
 llawn hwyl i Schubert. Mae croeso i’r gynulleidfa ymuno drwy ganu neu hymian, neu i
 eistedd yn ôl a mwynhau.
 Hyd y sesiwn anffurfiol hwn fydd 15 munud a bydd yn dechrau am 2.30pm.
 Am ddim gyda thocyn i’r gyngerdd.
Y gân a genir yn ystod y sesiwn fydd Lindenbaum gan Schubert ac mae ar gael o
  wefan Ensemble Cymru.

Clarinét: Peryn Clement-Evans
Basŵn: Gareth Humphreys
Corn Ffrengig: Nicholas Ireson
Feiolín: Florence Cooke
Feiolín: Kay Stephen
Fiola: Sara Roberts
Sielo: Nicola Pearce
Bas Dwbl: Martin Ludenbäch

Rhaglen

Wythawd yn F fwyaf. D 803 (1824) – Schubert
Wythawd (2018) – John Metcalf

Tocynnau

Pris Safonol £15, £14, £6
Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith I’w gadarnhau

Swyddfa Docynnau: 01248 382828

Mae ‘na ansawdd delynegol gynhenid i gerddoriaeth y cyfansoddwr o Gymru John Metcalf ……” – Gramophone

“… cyngerdd rhagorol o amrywiol ” – Wales Arts Review

“…arwrol a theimladwy dros ben ” – Critics Circle

Archebu

Nid yw'r digwyddiad hwn yn derbyn mwy o archebion arlein.