Schubert – Ucheldre, Caergybi

Schubert

Dyddiad 02/11/2019 Amser 7:30 pm - 9:00 pm

Lleoliad Canolfan Ucheldre, Caergybi, Ynys Môn

Mae Ensemble Cymru, sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, yn perfformio unwaith eto yn Ucheldre, gyda rhaglen ddelfrydol sy’n cynnwys Wythawd enwog Schubert – gwaith sylweddol i’w gyflawni ym myd cerddoriaeth siambr, sy’n parhau i swyno’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled y byd – ochr yn ochr â theyrnged Gymreig gyfoes o waith y cyfansoddwr, John Metcalf, i’r ffigwr hanesyddol mawr hwn .
“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel un sy’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel

Rhaglen

Wythawd yn F fwyaf. D 803 (1824) – Schubert
Wythawd (2018) – John Metcalf

Tocynnau

Pris Safonol

Ffrindiau Ucheldre

£14, £12 a £4

£12. £10 a £4

Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith

**A fyddech cystal â nodi mai dyma’r prisoedd cywir ar gyfer y digwyddiad hwn. Dylid anwybyddu unrhyw brisoedd eraill.

I’w gadarnhau

Swyddfa Docynnau: 01407 763361

Mae ‘na ansawdd delynegol gynhenid i gerddoriaeth y cyfansoddwr o Gymru John Metcalf ……” – Gramophone

“… cyngerdd rhagorol o amrywiol ” – Wales Arts Review

“…arwrol a theimladwy dros ben ” – Critics Circle

Archebu

Nid yw'r digwyddiad hwn yn derbyn mwy o archebion arlein.