Cyfle i gerddorion jamio gydag Ensemble Cymru
Yn dathlu Cerdd 100 Prifysgol Bangor.
Dyddiad Olaf Ar Gyfer Ceisiadau:
Hanner nos, Gwener, 4 Mawrth 2022
Dyma wahoddiad ichi gan Ensemble Cymru – ensembl cerddoriaeth siambr arweiniol Cymru – i gymryd rhan mewn sesiwn jamio unigryw. O dan baton Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Gwyn L Williams rydym wedi gosod y sialens i berfformio Creadigaeth y Byd gan y cyfansoddwr Ffrengig, Darius Milhaud…o fewn 3 awr yn unig!
Mae Creadigaeth y Byd yn bale hyd 15 munud. Cafodd ei gyfansoddi yn 1922. Dyma’r un amser, cafodd Cyfarwyddwr Cerdd cyntaf Prifysgol Bangor ei apwyntio. Cant mlynedd hwyrach, rydym yn gwahodd cerddorion o ar draws Cymru i ymuno â ni wrth ini ddathlu’r garreg filltir hon yn hanes creu cerddoriaeth ym Mangor ac i gerddoriaeth yng Nghymru.
Darn byr, llawer o rhythmau jazz gyda naws y ‘blues’, sy’n llawer o hwyl i chwarae, a oes diddordeb?
Rydym yn chwilio am y cerddorion canlynol (cyfartal i safon Gradd 5 da neu yn uwch) i ymuno â ni.
Ffliwt
Obo
Clarinét
Basŵn
Sacsoffon Alto
Corn Ffrengig
Trymped
Trombôn
Piano
Timpani
Offerynnau Taro
Feiolín
Sielo
Bas Dwbl
Beth sydd angen ichi wybod:
- Mae angen ichi fod ar gael o 11:45 hyd at 15:15, Sadwrn 12 Mawrth 2022 yn Cegin ar lawr cyntaf Pontio.
- Rydym yn chwilio am gerddorion sydd yn gyfartal a gradd 5 da neu yn uwch
- Rydym yn croesawu cerddorion o unrhyw oedran o 12 oed ac yn uwch. Bydd yn ofynnol i riant / gwarcheidwad fod yn bresennol o hyd ar gyfer plant oed 12 – 15.
- Mae niferoedd yn gyfyngedig felly ymgeisiwch cyn gynted ag y bo modd.
- Rydym yn gofyn i bawb baratoi gartref ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu paratoi 1 neu fwy o adrannau byr o Creation du Monde gan Milhaud a lle bo modd ei wylio / chwarae gyda recordiadau ar youtube.
- Er mwyn cadw pawb yn ddiogel ar y diwrnod byddwn ni’n gofyn i bawb wisgo gorchudd wyneb a chadw at bellter cymdeithasol pan nad ydych chi’n chwarae.
- Byddwn ni’n tynnu lluniau, ffilmio’r digwyddiad ac yn eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol a’r safle we. (Os nad ydych chi am gael eich ffilmio neu am i’ch plentyn gael ei ffilmio, rhowch wybod cyn gynted ag y bo modd os gwelwch yn dda)
Cydnabyddiaeth
Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones ac i gefnogwyr hael Ensemble Cymru am wneud i’r digwyddiad hwn yn bosib.
Dyddiad 12/03/2022 Amser 12:15 pm - 3:15 pm
Lleoliad Pontio - Bangor