Transfigured Nights
Ensemble Hebrides a Psappha – 25 mlynedd o gerddoriaeth newydd
Dau o ensembles cerddoriaeth gyfoes amlycaf Prydain yn ymuno â’i gilydd ar gyfer y rhaglen gydweithredol unigryw hon i ddathlu pen-blwydd y ddau yn 25 oed.
O fynegolrwydd grymus Farewell to Stromness, at liwiau caleidosgopaidd The Last Island (gyda ffilm yn cael ei dangos), mae Ensembles Psappha a Hebrides yn talu teyrnged i’r diweddar Syr Peter Maxwell Davies – y mae ei gerddoriaeth wedi llunio’u rhaglenni yn ystod y chwarter canrif a fu. Mae gwaith newydd sbon gan David Fennessy wedi ei gomisiynu ar y cyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol, ac mae’r rhaglen hon o’r hen a’r newydd yn cael ei gwau ynghyd gan gampwaith Schoenberg i chwechawd llinynnol, Transfigured Night.
Rhaglen:
Peter Maxwell Davies – The Last Island
Peter Maxwell Davies trefniant David Horne – Farewell to Stromness
David Fennessy – comisiwn newydd ar y cyd (Y perfformiad cyntaf yng Nghymru)
Arnold Schoenberg – Transfigured Night (Verklärte Nacht)
Perfformwyr:
Dathlu 25 mlynedd o Gerddoriaeth
Tocynnau*:
£12/£10/£5 (o dan 18 a myfyrwyr) *Yn cynnwys mynediad i’r Cyngerdd Preliwd gyda Phedwarawd Benyounes
Gwybodaeth Archebu:
Ar-lein: Ewch ar wefan Pontio
Ffôn: 01248 38 28 28 (Llun -Sad 10am – 8:30pm) (Sul 12pm – 6pm)
Digwyddiadau eraill sy’n rhan o ‘Teyrnged i Max yng Nghymru’
6:30pm Cyngerdd Preliwd Pedwarawd Benyounes
9:15pm Bar Bariau! Ensemble Cymru a Phedwarawd Benyounes yn perfformio cerddoriaeth newydd gan gyfansoddwyr o Brifysgol Bangor
Dyddiad 12/11/2016 Amser 7:30 pm - 9:00 pm