Y PERFFORMIAD CYNTAF ERIOED: Wythnos yng Nghymru Fydd

Dyddiad 10/11/2017 - 25/11/2017 Amser 7:30 pm - 10:00 pm

Mae Ensemble Cymru yn falch iawn o gael gweithio gyda OPRA Cymru ar opera newydd sbon hon…

Wythnos yng Nghymru Fydd

Opera gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood

Yn seiliedig ar nofel Islwyn Ffowc Elis

Gwireddir gweledigaeth Islwyn Ffowc Eis am ddyfodol ei famwlad – yn rhannol iwtopaidd, ac yn rhannol ddystopaidd – ar y llwyfan operatig mewn fersiwn gyffrous wedi’i dyfeisio gan ddau artist mwyaf creadigol Cymru, sef y cyfansoddwr Gareth Glyn a’r Prifardd Mererid Hopwood.

60 mlynedd ers cyhoeddi’r nofel, daw‘r unig gwmni opera iaith Gymraeg yn y byd â chast disglair o gantorion ynghyd, i adfywio’r stori rybuddiol hon am gariad, colled, cymuned a pherthyn drwy gyfrwng cerddoriaeth.

Ysgrifennwyd yr opera yn y Gymraeg, ond diolch i’r ap ffôn symudol Sibrwd, bydd y perfformiadau yn ddealladwy i’r di-Gymraeg hefyd.

Cyflwynir yr opera gyda chaniatâd caredig Ystad Islwyn Ffowc Elis a Gwasg Gomer.

Dyddiadau’r Daith

10 & 11 Tachwedd 2017 – Pontio, Bangor
14 Tachwedd 2017 – Y Stiwt, Wrecsam
16 Tachwedd 2017 – Theatr Hafren, Drenewydd
17 Tachwedd 2017 – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
21 Tachwedd 2017 – Theatr Memo, Barri
23 Tachwedd 2017 – Taliesin, Abertawe
25 Tachwedd 2017 – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd y cast a’r tîm creadigol yn cynnwys:

Gwawr Edwards, Sian Meinir, Euros Campbell, Sion Goronwy, Robyn Lyn Evans;
Eleri Gwilym, Ilar Rees Davies, Gethin Lewis, Seimon Menai; Corws Ysgol Glanaethwy
Arweinydd, Iwan Teifion Davies
Cyfarwyddwr, Patrick Young
Dylunydd, Lois Prys
Dylunydd goleuo, Gwion Llwyd