Wedi iddo dyfu fyny yng Nghymru, astudiodd Martin yn Ysgol y Guildhall ac erbyn hyn mae o’n chwaraewr y bas dwbl llawrydd.
Mae’n mwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth, gan weithio gyda Cerddorfa Siambr Llundain, y Philharmonia, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol,, dirprwyo yn Les Miserables yn rheolaidd ynghyd â phrosiectau dawns a cherddor-actor. Mae hefyd yn rhedeg ac yn syrffio yn rheolaidd. Mae gan fas dwbl Martin gorneli ‘Busetto’ anarferol iawn sydd yn unigryw i basau Almaenig Mittenwald, yn benodol o ganol 1800au..