Basŵn: Llinos Elin Owen

Magwyd Llinos ym Mhwllheli, a mynychodd yr ysgol yno cyn cael ei derbyn i Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion ar gyfer chweched dosbarth. Parhaodd â’i haddysg  yng Ngholeg Santes Catharine yng Nghaergrawnt, cyn cwblhau cwrs ôl-raddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Llinos yw is brif faswnydd Sinfonia’r Ballet Brenhinol, ac mae hi hefyd yn mwynhau gweithio gydag amryw o grwpiau siambr. Mae hi’n un o aelodau gwreiddiol y pedwarawd basŵn ‘Reed Rage’, yn ogystal â bod yn brif faswnydd Cerddorfa Siambr y Gogledd. Mae Llinos hefyd yn arholi ar gyfer yr ABRSM.

Mae gwaith cerddorfaol yn galluogi Llinos i deithio o gwmpas y wlad a’r byd. Bu’n chwarae gyda Cherddorfa Symffoni India, yn ogystal â gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera North, Cerddorfa’r Royal Opera House, a Cherddorfa’r Halle.

Mae Llinos bellach yn byw yn Swydd Gaerwrangon gyda’i gŵr. Pan nad yw’n chwarae basŵn neu’n teithio, mae hi’n mwynhau caiacio a gwylio adar.