Corn Ffrengig: Nicholas Ireson

Mae Nick Ireson yn mwynhau gyrfa brysur fel perfformiwr, gan weithio gydag amrywiaeth o gerddorfeydd ac ensemblau ledled y DU a thramor.  Fe’i gwelir yn aml o dan y llwyfan yn chwarae i wahanol gwmnïau bale ac weithiau mae’n mentro uwchben y ddaear i’r platfform cyngerdd hefyd.

Wedi’i eni a’i fagu yn St Albans, graddiodd o’r Academi Gerdd Frenhinol yn 2009, cyn astudio cerddoriaeth yn Eglwys Crist, Rhydychen. Mae Nick wedi bod yn chwarae’r corn yn broffesiynol ers 10 mlynedd a phan nad yw’n chwarae’r corn, mae’n mwynhau rhaglenni dogfen chwaraeon a mynd â’i gi am dro, yn ddelfrydol i’r dafarn.

Wedi ei ddatglymu, mae’r Corn Ffrengig yn mesur tua 20 troedfedd o hyd, sef tua’r un uchder â thŷ deulawr.