Feiolín: Elenid Owen

Bu Elenid, am bedair blynedd ar hugain, yn aelod o Bedwarawd Llinynnol Ludwig ym Mharis, yn cynnal cyngherddau a dosbarthiadau meistr ledled y byd ac yn recordio ar gyfer labeli “Naxos”, “Naïve” a “Universal”.

Cafodd ei anrhydeddu gydag “Chevalier de l’Ordre des Arts et Lettres” gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc am ei chyfraniad i gerddoriaeth yn y wlad.

Daeth hi a’i theulu yn ôl i Gymru i ymgartrefu yn 2014 er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i’w phlant.

Prif feiolinydd Ensemble Cymru, mae hi bellach yn mwynhau gweithio’n llawrydd gyda gwahanol grwpiau cerdd ac yn dysgu feiolín a cherddoriaeth siambr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Mae ei blynyddoedd yn Ffrainc wedi cael effaith barhaol… dyw hi byth yn hapusach nac o flaen gwydraid o win Ffrengig da ac ychydig o gaws (ond ar ôl cyngherddau wrth gwrs ;)).