Feiolín: Mary Hofman

Ers graddio yn 2007, mae Mary wedi dilyn gyrfa amrywiol fel cerddor cerddorfa a siambr ac fel athro. Bu’n gweithio fel arweinydd gwadd yr Edinburgh Quartet yn ogystal â pherfformio gyda’r Endellion Quartet. Mae Mary’n chwarae’n rheolaidd gyda’r rhan fwyaf o gerddorfeydd siambr arweiniol Prydain, gan gynnwys y Scottish Chamber Orchestra, Northern Sinfonia, Manchester Camerata a’r Britten Sinfonia yn ogystal â chyda cherddorfeydd cyfnod megis OAE ac ORR.