Fiola: Lucy Nolan

Mae Lucy, a aned yn Nulyn, ar hyn o bryd yn mwynhau gyrfa brysur fel cerddor siambr ac athrawes. Graddiodd o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd (Manceinion) gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn ei gradd gyntaf ac yna gyda gradd Meistr mewn Perfformio Unawdol a chyda Diploma Artist Rhyngwladol mewn Arwain Cerddorfa Linynnol, a gwblhaodd mewn cydweithrediad â’r Hallé. Ei hathrawon oedd Simon Aspell o Bedwarawd Vanbrugh, y diweddar Roger Bigley, a Louise Lansdown.

Mae cerddoriaeth siambr yn rhan allweddol o fywyd Lucy, a ffurfiodd y triawd llinynnol Eblana String gyda’r fiolinydd Jonathan Martindale a’r sielydd Peggy Nolan yn 2006. Mae gan y triawd amserlen gyngherddau brysur, ac mae’r uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys datganiadau yn Neuadd Wigmore, a Neuadd Bridgewater, Manceinion.  Roedd aelodau’r triawd yn gymrodyr iau cyntaf cerddoriaeth siambr yng Nghonservatoire Birmingham ac ar hyn o bryd maent yn artistiaid ifanc Park Lane. Mae Lucy wedi bod yn ffodus o gael hyfforddiant cerddoriaeth siambr gan lawer o gerddorion adnabyddus gan gynnwys y diweddar Dr Hugh Maguire a Mstislav Rostropovich, Dora Schwartzberg a Gabor Takacs Nagy. Mae hi wedi cydweithio mewn perfformiadau siambr gydag artistiaid fel Catrin Finch, Marcia Crayford, Moray Welsh, Thomas Riebl a Jirí Hudec.

Mae Lucy’n frwd dros ei gyrfa fel athrawes, ac mae’n dysgu ar hyn o bryd yng Nghonservatoire Birmingham a Choleg Cerdd Frenhinol y Gogledd.  Mae’n gyfarwyddwraig RNCM Young Violas ac yn diwtor rheolaidd ar gyrsiau fiola a cherddoriaeth siambr Pro Corda.

Ar wahân i’w gwaith fel athrawes a chyda’r Eblanas, mae Lucy’n ymwneud ag amrywiaeth o brojectau cerddorol. Mae hi wedi gweithio gyda Louise Lansdown wrth guradu cyfraniad y British Viola Society ar gyfer yr International Viola Congresses ym Mhortiwgal (2014) a’r Eidal (2016).  Ar hyn o bryd mae’n diwtor cerddoriaeth siambr ar gyfer ARCO, project dysgu o bell i blant yn ysgol MIAGI Cape Gate yn Soweto. Yn fwy diweddar, mae Lucy wedi bod yn astudio datganiadau jazz ac wedi perfformio a recordio gydag artistiaid fel Alice Zawadzki, Stuart McCallum a Mike Walker.

Gwyliwch Lucy yn perfformio gydag Ensemble Cymru yn ystod tymor 2016-17.