Magwyd Richard Ormrod yng Nghaerdydd ac ymddangosodd am y tro cyntaf mewn perfformiad o goncerto pan oedd yn ddeg oed, yn chwarae Mozart gyda Cherddorfa Ieuenctid De Morgannwg cyn mynd ymlaen i astudio yn Ysgol Gadeiriol Wells gyda Michael Young a Choleg y Brenin, Caergrawnt lle cwblhaodd ei MA. Bu’n fyfyriwr ôl-radd i Eliso Virsaladze yng ngholeg cerdd Mosgo.
Roedd Richard yn berfformiwr preswyl yng Ngŵyl Gerdd Aspen am bum mlynedd. Bu’n teithio fel unawdydd concerto gyda’r Philharmonia Virtuosi a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel unawdydd yng Nghanolfan Barbican Llundain gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig dan David Parry.
Mae Richard yn bianydd parhaol gydag Ensemble Hyperion yn Salzburg ac mae hefyd wedi bod yn unawdydd ar dair taith ryngwladol Cerddorfa Siambr Ffilharmonig y Weriniaeth Tsiec. Mae wedi datblygu presenoldeb siambr cerddoriaeth gweithredol yn yr Unol Daleithiau trwy ei gysylltiad gyda’r Pumawd Chwythbrennau Dorian adnabyddus.
Mae Richard wedi perfformio i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y DU, yn ogystal ag Awstria, Bosnia, y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, yr Almaen, Hwngari, Israel, yr Eidal, Moroco, Romania Rwsia, Slofenia, yr Unol Daleithiau ac Iwgoslafia. Mae ei berfformiadau wedi cael eu darlledu’n fyw ar deledu a radio y BBC.
Gwyliwch Richard yn perfformio gyda’r Ensemble Cymru ym mis Chwefror 2017…