Telyn: Anne Denholm

photo credit Tom Porteous

Mae Anne Denholm sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn un o delynorion ifanc blaenllaw Prydain a bu’n Delynores Swyddogol i EUB Tywysog Cymru o 2015-2019. Derbyniodd Anne ei gradd Meistr o’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain (RAM) gyda rhagoriaeth, gan raddio gyda Gwobr y Regency ar gyfer llwyddiant nodedig, ac fel y delynores gyntaf erioed i ennill y wobr hanesyddol, Clwb yr Academi (‘RAM Club Prize’).

©Timothy Ellis

Cafodd Anne fagwraeth gerddorol Brydeinig, gan astudio yn Adran Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ysgol Purcell, Prifysgol Caergrawnt a’r RAM. Enillodd nifer o wobrau mewn cystadlaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys ail wobr yng Ngŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru 2014 a chyrraedd rownd derfynol y llinynnau yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC 2010.
Mae galw cynyddol ar Anne fel dehonglydd a pherfformiwr cerddoriaeth newydd; bu’n recordio a pherfformio gweithiau newydd ar gyfer y delyn ers 2006. Mae hi’n un o sylfaenwyr y pedwarawd cyfoes arbrofol, The Hermes Experiment, enillwyr Categori Ensembl Cymysg y gystadleuaeth gerddorol flynyddol y Royal Overseas League, a Showcase Artists ar gyfer Classical Next 2019.
Mae Anne yn gweithio’n llawrydd gyda cherddorfeydd a chorau ar draws Prydain, ac mae hefyd yn dysgu yng Ngholeg Eton a’r Dragon School Rhydychen.

Gwefan: www.annedenholm.com / Trydar: @anne_denholm

Gwyliwch Anne yn perfformio gydag Ensemble Cymru yn ystod tymor 2016-17.