Telyn: Elisa Netzer

Mae Elisa Netzer yn delynores ifanc, flaengar o’r Swisdir. Er ei bod mor ifanc, mae wedi perfformio fel unawdydd gyda Cherddorfa Simffoni Arturo Toscanini, Cerddorfa Solisti della Svizzera Italiana, Ensemble Siambr Parma Conservatory, Orchestra mandolinistica di Lugano ac Orchestra mandolinista di Modena. Yn 2013 gwnaeth ei début fel unawdydd rhyngwladol yn St Petersburg, Rwsia, yn yr Hermitage Theatre gyda’r Hermitage State Orchestra, ar wahoddiad y Musical Olympus Festival fel unawdydd ifanc addawol.