Feiolín: Florence Cooke

Mae galw mawr am Florence Cooke fel cerddor siambr, ac mae hi wedi perfformio’n helaeth yn y DU a thramor.  Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle daliodd ysgoloriaeth academaidd, ac yn y Guildhall, lle daliodd Gymrodoriaeth Leverhulme.  Mae hi wedi ennill llawer o wobrau ac ysgoloriaethau, yn cynnwys Ysgoloriaeth Myra Hess, Gwobr Nigel Brown, Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Razumovsky ac Ysgoloriaeth Grŵp Park Lane.

Mae Florence yn aelod o Bedwarawd Llinynnol Kreisler ac o Ensemble Cymru, ac wedi perfformio fel artist gwadd gydag Ensembles Aronowitz a Razumovsky, Chwaraewyr Jigsaw ac Ensemble Chroma.  Mae ymddangosiadau mewn gwyliau siambr rhyngwladol yn cynnwys Gŵyl Cwm Gwy, Gŵyl Sommerklaenge, Zürich, Ludwigsburg Schlossfestspiele y yr Almaen, Gŵyl Ryngwladol Haaglanden yn yr Iseldiroedd, Gŵyl Ryngwladol Kerry yn Iwerddon, Gwyliau Haf Domaine Forget Banff yng Nghanada, gŵyl gerdd gyfoes “Etchings” yn Ffrainc, a Gŵyl Obertoene yn Awstria.  Bu hefyd yn sefydlu a chyfarwyddo gŵyl gerddoriaeth siambr yn Ffrainc am dair blynedd.

Ym Mawrth 2011, cymerodd ran mewn cyfres o bedwar datganiad yn Kings Place, yn dathlu cerddoriaeth Heinz Holliger, a gafodd ganmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid.  Mae hi’n arwain ‘Ensemble Theseus’ sy’n chwarae cerddoriaeth gyfoes, a hefyd wedi blaenu yn ‘Future Firsts’ Cerddorfa Symffoni Llundain yn Neuadd y Royal Festival, ac wedi bod yn brif offerynnwr yn yr European Camarata yn ystod taith yn Ffrainc.  Ar wahân i berfformio, mae hi hefyd yn dysgu cerddoriaeth siambr yn y Guildhall Iau.  Mae Florence wedi cael gwahoddiadau blynyddol i  Seminar Gerdd Ryngwladol Prussia Cove er 2005, a Krzysztof Smietana a David Takeno oedd ei phrif athrawon.

Gwyliwch Florence yn perfformio gydag Ensemble Cymru yn ystod y tymor 2016-17.