Feiolín: Florence Cooke

Mae galw mawr am wasanaeth Florence Cooke fel cerddor siambr, ac mae hi wedi perfformio’n helaeth yn y DU a thramor.  Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle dyfarnwyd iddi ysgoloriaeth academaidd, ac yn y Guildhall, lle bu’n Gymrawd Leverhulme.  Mae hi wedi ennill nifer o wobrau ac ysgoloriaethau, gan gynnwys Ysgoloriaeth Myra Hess, Gwobr Nigel Brown, Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Razumovsky ac Ysgoloriaeth Grŵp Park Lane.

Mae Florence yn aelod o Bedwarawd Llinynnol Kreisler ac o Ensemble Cymru, ac wedi perfformio fel artist gwadd gydag Ensemblau Aronowitz a Razumovsky, Chwaraewyr Jigsaw ac Ensemble Chroma.  Ymddangosodd mewn gwyliau siambr rhyngwladol gan gynnwys Gŵyl Dyffryn Gwy, Gŵyl Sommerklaenge, Zürich, Ludwigsburg Schlossfestspiele yn yr Almaen, Gŵyl Ryngwladol Haaglanden yn yr Iseldiroedd, Gŵyl Ryngwladol Kerry yn Iwerddon, Gwyliau Haf Domaine Forget Banff yng Nghanada, gŵyl gerdd gyfoes “Etchings” yn Ffrainc, a Gŵyl Obertoene yn Awstria.  Sefydlodd a chyfarwyddodd ŵyl gerddoriaeth siambr yn Ffrainc am dair blynedd.

Ym Mawrth 2011, cymerodd ran mewn cyfres o bedwar datganiad yn Kings Place, fu’n dathlu cerddoriaeth Heinz Holliger, ac fe dderbyniodd  ganmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid.  Mae hi’n arwain ‘Ensemble Theseus’ sy’n chwarae cerddoriaeth gyfoes, a hefyd wedi bod yn flaenwraig yn ‘Future Firsts’ Cerddorfa Symffoni Llundain yn Neuadd y Royal Festival, ac wedi bod yn brif offerynnwr yn yr European Camarata yn ystod taith yn Ffrainc.  Ar wahân i berfformio, mae hi hefyd yn dysgu cerddoriaeth siambr yn y Guildhall Iau.  Mae Florence wedi cael gwahoddiadau blynyddol i  Seminar Gerdd Ryngwladol Prussia Cove er 2005, a Krzysztof Smietana a David Takeno oedd ei phrif athrawon.

Gwyliwch Florence yn perfformio gydag Ensemble Cymru yn ystod tymor 2016-17.