Yn wreiddiol o Birmingham, mae Lucy yn bwy yng Nghymru ers 1996. Daeth i Gymru i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd gyda BMus (Dosbarth cyntaf gydag anrhydedd) ac wedyn gydag M.A. Mae hi’n chwarae piano a chlarinét, ond addysg gerddoriaeth yw ei phrif ddiddordeb.
Yn 2002, cafodd Lucy Ysgoloriaeth Deithio Winston Churchill i ymchwilio i faes addysg ryngweithiol yn America, Yr Almaen a Lwcsembwrg. Yn ystod ei hamser tramor, penderfynodd Lucy gweithio ym maes addysg gerddoriaeth, yn benodol gyda phlant ifanc. Ymchwiliodd ystod eang o ddulliau addysg gerddoriaeth yn chwilio am gyfleoedd hyfforddiant. Daeth Lucy o hyd i gwrs “Sound Beginnings” a chafodd Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol “Cerddoriaeth yn y Blynyddoedd Cynnar (Kodály) yn 2004. Mae’r dull Kodály wedi bod wrth graidd ei gwaith ers hynny. Mae’r dull Kodály yn pwysleisio’r defnydd o ganeuon a rhigymau traddodiadol i helpu datblygu sgiliau cerddorol.
Yn gwybod ei bod hi eisiau byw a gweithio yng Nghymru, dechreuodd Lucy ddysgu Cymraeg ym 1999. Fel rhan o’i hyfforddiant Kodály, dechreuodd casglu a datblygu adnoddau cerddoriaeth ddwyieithog yn addas i blant hyd at 7 blwydd oed. Cyhoeddwyd un o’i chaneuon, Y Llyffant, yn 2004 fel rhan o’r prosiect “Helpa fi Wneud Cân”. Erbyn 2005 roedd Lucy yn rhugl yn y Gymraeg a chwblhaodd Cwrs TAR (Cynradd) trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn 2015, penderfynodd Lucy dechrau hyfforddiant Dalcroze Eurhythmics (dysgu am gerddoriaeth wrth symud) a chymhwysodd fel ymarferwr Dalcroze Eurhythmics yn 2018. Yn awyddus i ddysgu o hyd, mae Lucy wrthi’n astudio am Dystysgrif Ymarfer Broffesiynol Kodály, Cynradd Lefel 2 ar hyn o bryd.
Yn ystod ei gyrfa ym maes addysg gerddoriaeth, mae Lucy wedi gweithio mewn ysgolion, gyda gwyliau celfyddydol, yn y Ganolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon, ac mae hi hefyd wedi cymhwyso fel athrawes gynradd. Ers Medi 2016, mae Lucy yn diwtor cerddoriaeth gyda Sistema Cymru, Codi’r To. Mae hi’n gyfrifol am waith gyda phlant o flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 2. Mae hi hefyd yn arwain prosiect addysg i Ensemble Cymru (ensemble cerddoriaeth siambr broffesiynol) yn Ysgol Tudno, Llandudno.