Sielo: Nia Harries

Cafodd Nia yr anrhydedd o fod yn fyfyrwraig i Jacqueline du Pre am sawl blwyddyn, a hefyd yn fyfyrwraig i Steven Isserlis tra’r roedd hi yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Mae wedi gweithio’n helaeth gyda grwpiau cerddoriaeth gynnar gan gynnwys Cerddorfa’r Age of Enlightenment a’r Orchestre Revolutionnaire et Romantique.

Clarinét: Christopher Goodman

Ers graddio o’r Coleg Cerdd Brenhinol yn 2010 lle bu’n astudio fel Ysgolor Sylfaen, mae Chris wedi bod yn perfformio gyda cherddorfeydd, grwpiau siambr, cwmnïau opera a chynyrchiadau theatr yn ogystal ag yn y stiwdio recordio, ac o bryd i’w gilydd fel unawdydd.

Basŵn: Alanna Pennar-Macfarlane

Mae Alanna Pennar-Macfarlane yn fasŵnydd sy’n hanu o Swydd Clackmannan yn yr Alban yn wreiddiol. Ar ôl dechrau ar y clarinét symudodd Alanna i’r basŵn yn ei harddegau ac aeth hi i’r Royal Conservatoire of Scotland bob dydd Sadwrn i fynychu’r adran iau.

Ymarferwr cerdd: Lucy Clement-Evans

Yn wreiddiol o Birmingham, mae Lucy yn bwy yng Nghymru ers 1996.  Daeth i Gymru i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.  Graddiodd gyda BMus (Dosbarth cyntaf gydag anrhydedd) ac wedyn gydag M.A.  Mae hi’n chwarae piano a chlarinét, ond addysg gerddoriaeth yw ei phrif ddiddordeb.

Sielo: Nicola Pearce

Magwyd Nicola yn Bedford a Dyfnaint cyn mynd i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yng Ngholeg Cerdd y Drindod Llundain. Mae hi wedi ennill sawl gwobr gydnabyddedig gan gynnwys ysgoloriaeth i astudio yn Academi Gerddorol Chigiana yn Sienna, yr Eidal.

Corn Ffrengig: Nicholas Ireson

Mae Nick Ireson yn mwynhau gyrfa brysur fel perfformiwr, gan weithio gydag amrywiaeth o gerddorfeydd ac ensemblau ledled y DU a thramor.  Fe’i gwelir yn aml o dan y llwyfan yn chwarae i wahanol gwmnïau bale ac weithiau mae’n mentro uwchben y ddaear i’r platfform cyngerdd hefyd.