Ymarferwr cerdd: Lucy Clement-Evans

Yn wreiddiol o Birmingham, mae Lucy yn bwy yng Nghymru ers 1996.  Daeth i Gymru i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.  Graddiodd gyda BMus (Dosbarth cyntaf gydag anrhydedd) ac wedyn gydag M.A.  Mae hi’n chwarae piano a chlarinét, ond addysg gerddoriaeth yw ei phrif ddiddordeb.

Sielo: Nicola Pearce

Magwyd Nicola yn Bedford a Dyfnaint cyn mynd i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yng Ngholeg Cerdd y Drindod Llundain. Mae hi wedi ennill sawl gwobr gydnabyddedig gan gynnwys ysgoloriaeth i astudio yn Academi Gerddorol Chigiana yn Sienna, yr Eidal.

Corn Ffrengig: Nicholas Ireson

Mae Nick Ireson yn mwynhau gyrfa brysur fel perfformiwr, gan weithio gydag amrywiaeth o gerddorfeydd ac ensemblau ledled y DU a thramor.  Fe’i gwelir yn aml o dan y llwyfan yn chwarae i wahanol gwmnïau bale ac weithiau mae’n mentro uwchben y ddaear i’r platfform cyngerdd hefyd.

Basŵn: Llinos Elin Owen

Magwyd Llinos ym Mhwllheli, a mynychodd yr ysgol yno cyn cael ei derbyn i Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion ar gyfer chweched dosbarth. Parhaodd â’i haddysg  yng Ngholeg Santes Catharine yng Nghaergrawnt, cyn cwblhau cwrs ôl-raddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Obo: Huw Clement-Evans

Mae Huw yn byw yn Llundain fel oboydd ar ei liwt ei hun. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd Frenhinol y Gogledd ym Manceinion gyda Robin Canter.

Feiolín: Florence Cooke

Mae galw mawr am wasanaeth Florence Cooke fel cerddor siambr, ac mae hi wedi perfformio’n helaeth yn y DU a thramor.  Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle dyfarnwyd iddi ysgoloriaeth academaidd, ac yn y Guildhall, lle bu’n Gymrawd Leverhulme.  Mae hi wedi ennill nifer o wobrau ac ysgoloriaethau, gan gynnwys Ysgoloriaeth Myra Hess, Gwobr Nigel Brown,… Continue reading Feiolín: Florence Cooke

Fiola: Sara Roberts

Mae Sara’n hanu o Lanfairpwll, Ynys Môn. Cafodd wersi feiolin gan Almut Bone a Margaret Scourse cyn dechrau dysgu’r fiola yn 15 mlwydd oed.