Fiola: Lucy Nolan

Mae Lucy, a aned yn Nulyn, ar hyn o bryd yn mwynhau gyrfa brysur fel cerddor siambr ac athrawes. Graddiodd o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd (Manceinion) gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn ei gradd gyntaf ac yna gyda gradd Meistr mewn Perfformio Unawdol a chyda Diploma Artist Rhyngwladol mewn Arwain Cerddorfa Linynnol, a gwblhaodd… Continue reading Fiola: Lucy Nolan

Feiolín: Elenid Owen

Yn ystod y pedair blynedd ar hugain ddiwethaf, bu’r fiolinydd o Gymru, Elenid Owen, yn aelod o bedwarawd llinynnol Ludwig ym Mharis, gan gynnal dros 1500 o gyngherddau a dosbarthiadau meistr ar draws y byd a recordio 20 CD ar gyfer labeli ‘Naxos’, ‘Naïve’ ac ‘Universal’. Yn 2012 fe’i gwnaed yn “Chevalier de l’Ordre des… Continue reading Feiolín: Elenid Owen

Telyn: Anne Denholm

photo credit Tom Porteous

Mae Anne Denholm sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn un o delynorion ifanc blaenllaw Prydain a bu’n Delynores Swyddogol i EUB Tywysog Cymru o 2015-2019. Derbyniodd Anne ei gradd Meistr o’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain (RAM) gyda rhagoriaeth, gan raddio gyda Gwobr y Regency ar gyfer llwyddiant nodedig, ac fel y delynores gyntaf erioed i… Continue reading Telyn: Anne Denholm

Piano: Richard Ormrod

Magwyd Richard Ormrod yng Nghaerdydd ac ymddangosodd am y tro cyntaf mewn perfformiad o goncerto pan oedd yn ddeg oed, yn chwarae Mozart gyda Cherddorfa Ieuenctid De Morgannwg cyn mynd ymlaen i astudio yn Ysgol Gadeiriol Wells gyda Michael Young a Choleg y Brenin, Caergrawnt lle cwblhaodd ei MA. Bu’n fyfyriwr ôl-radd i Eliso Virsaladze… Continue reading Piano: Richard Ormrod

Fiola: Oliver Wilson

Bu Oliver yn brif fiola gwadd gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment yn Schloss Esterhazy yn Eisenstadt (lle roedd y cyfansoddwr Haydn yn byw ac yn gweithio).   Mae wedi perfformio yn y BBC Proms a Gŵyl Caeredin gyda Syr John Eliot Gardiner a’r Orchestre Revolutionnaire et Romantique. 

Clarinét: Peryn Clement-Evans

Peryn Clement-Evans yw prif glarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. Bu Peryn yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (Manceinion) ac wedi hynny yn Rotterdam’s Conservatorium gyda’r unawdydd rhyngwladol o wlad Belg, Walter Boeijkens.