Feiolin: Nia Bevan

Ganwyd Nia yng Nghaerdydd ac astudiodd y feiolin gyda Marion Mattison, Nina Martin, Peter Cropper a Kryzystof Smietana. Yn ysgolor MacMyn ar gwrs BMus Prifysgol Manceinion, cafodd hyfforddiant mewn cerddoriaeth siambr yn wythnosol gan aelodau pedwarawd llinynnol Lindsay. Mae hi’n arwain llawer o gerddorfeydd gan gynnwys Opera Dinas Abertawe, Sinfonietta Prydain, Cerddorfa Gwyl Dartington a Cherddorfa Sesiwn Cymru.