Mae grŵp cerddoriaeth siambr blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn dychwelyd i brifddinas Cymru fis Tachwedd i gynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant a fydd yn cynnwys y campwaith na pherfformir yn aml, yr Octet gan Schubert. Byddant hefyd yn perfformio comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru, John Metcalf.
Tag: Caerdydd
Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr
I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.
Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru
Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig. Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.
Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma
Gyda diolch i Emma Lancastle am y blog canlynol. Yn ystod eu Taith Chwefror, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i Glarinét, Ffidl a Phiano. Mae rhai o’r darnau gorau o gerddoriaeth glasurol wedi cael eu creu yn ystod cyfnodau o drallod a chaledi, ac mae’r rhaglen a gyflwynir gan y… Continue reading Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma