Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin! Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa… Continue reading Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy
Tag: cerddoriaeth siambr
Ensemble Cymru yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant gyda champwaith Schubert
Mae grŵp cerddoriaeth siambr blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn dychwelyd i brifddinas Cymru fis Tachwedd i gynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant a fydd yn cynnwys y campwaith na pherfformir yn aml, yr Octet gan Schubert. Byddant hefyd yn perfformio comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru, John Metcalf.
Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru
Bydd Ensemble Cymru a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru ddydd Gwener 28 Medi 2018. Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn rhoi amlygrwydd i’r cyfoeth o gerddoriaeth siambr sydd yn y rhanbarth, gyda pherfformiadau byw gan Ensemble Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Clwb… Continue reading Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru
Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr
I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.
Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru
Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig. Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.
Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau
Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni. Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…
Cyfle i egin gerddorion Aberystwyth ddisgleirio
Mae’r grŵp cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Cerddoriaeth Ceredigion, wedi lansio ‘Academi Siambr’ newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle bydd cerddorion ifanc lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistri gan rai o berfformwyr cerddoriaeth glasurol amlycaf y wlad.
Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China
Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. “Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…
Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma
Gyda diolch i Emma Lancastle am y blog canlynol. Yn ystod eu Taith Chwefror, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i Glarinét, Ffidl a Phiano. Mae rhai o’r darnau gorau o gerddoriaeth glasurol wedi cael eu creu yn ystod cyfnodau o drallod a chaledi, ac mae’r rhaglen a gyflwynir gan y… Continue reading Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma