
Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin! Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa yng Nghymru ac ar y llwyfan bydd perfformwyr rhyngwladol yn ymuno â rhai o ieuenctid talentog Academi Llais Ryngwladol Cymru.
Darllenwch fwy Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy