Dathlu Alawon

A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Continue reading Dathlu Alawon

Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru

Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig.   Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.

Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China

Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. “Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…

Ensemble Cymru yn y Swistir

Fel rhan o Raglen Gyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru mae Ensemble Cymru wedi cael ei wahodd i berfformio ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Gymreig yr Alpau yn Champéry yn Canton Valais (Wallis) yn y Swistir. Byddwn ni’n perfformio yn ddigwyddiad terfynol y gystadleuaeth ym mhresenoldeb Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth a Conswl Cyffredinol Prydain yn y Swistir, Richard Ridout… Continue reading Ensemble Cymru yn y Swistir

Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol. Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar… Continue reading Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Cyngherddau Coffi 2014-15 – llyfryn newydd y tymor

Croeso i gyfres y ‘Lleisiau Clasurol’ Ensemble Cymru, y tymor cyntaf yn hanes yr Ensemble sy’n canolbwyntio ar y llais. Ymunwch â’r Ensemble wrth ddarganfod cyfoeth o gerddoriaeth siambr newydd, gyffrous gyda chantorion amlwg o Gymru, yn nhymor mwyaf egnïol a gwefreiddiol yr Ensemble hyd yma. Lawrlwytho’r llyfryn Cyngherddau Coffi tymor 2014-15

Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri

Ymunwch â’r grŵp cerddoriaeth glasurol o Fangor, Ensemble Cymru, am ginio pur wahanol yn Galeri y mis Medi yma.  Yn ‘Blas o Ensemble Cymru’ bydd triawd o gerddorion cerddoriaeth siambr amryddawn yn diddanu ciniawyr i raglen awr o gerddoriaeth fyw a fydd yn eich cyfareddu. P’un a ydi cerddoriaeth glasurol yn faes newydd i chi,… Continue reading Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri

Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…

Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’. Yn gyntaf y mae’r ychwanegiad newydd at deulu Ensemble Cymru, Katka Marešová. Ganed a magwyd Katka yng Ngweriniaeth Tsiec, a chyrhaeddodd Brydain fis Medi’r llynedd i dreulio blwyddyn yn astudio ym, Mhrifysgol Bangor. Ac mae’n ymddangos bod tirwedd garw, fynyddig gogledd Cymru… Continue reading Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…