A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Continue reading Dathlu Alawon
Tag: concerts
Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr
I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.
Delynores, Anne Denholm yn sgwrsio am gerddoriaeth newydd ac Ensemble Cymru cyn taith mis Mai
Rydym yn sgwrsio â Phrif Delynores Ensemble Cymru, a’r Delynores Frenhinol bresennol, Anne Denholm, yn ystod y paratoadau ar gyfer taith mis Mai, i ddarganfod sut mae gweithio gydag Ensemble Cymru yn helpu i hyrwyddo rhywbeth sy’n bwysig iawn iddi.
Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Llio…
Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’! Dewch i gwrdd â Llio Evans, ein soprano wych a fydd yn perfformio fel rhan o Ensemble Cymru yn ystod ein Cyngherddau Coffi ym mis Tachwedd.
Tanysgrifio i ein rhestr bostio drwy’r post
Os hoffech chi dderbyn copi o ein llyfryn tymor newydd sbon ar gyfer ycyngherddau coffi 2014 – 15, llenwch y ffurflen isod. [gravityform id=”18″ name=”Rhestr bostio drwy’r post”]