Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig. Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.