Posted on

Helpwch Ensemble Cymru gyrraedd nod y ‘Big Give’

Mae’r Her Nadolig ‘Big Give’ 2018 wedi CYCHWYN

Dros yr 7 diwrnod nesaf bydd pob rhodd tuag at Ensemble Cymru trwy’r ‘Big Give’ yn cael ei ddyblu gan arian cyfatebol.

Fel sefydliad bach, mae pob rhodd, beth bynnag ei faint, yn cael effaith enfawr ar ein gwaith.

Cliciwch yma i gyfrannu

Ar ran pawb yn Ensemble Cymru, diolch yn fawr iawn.

Darllenwch fwy Helpwch Ensemble Cymru gyrraedd nod y ‘Big Give’

Posted on

Rhoddion yn ffordd allweddol o sicrhau arian a cherddoriaeth i Ensemble Cymru

 

Mae Ensemble Cymru, sy’n elusen gerddoriaeth siambr, yn dathlu 15 mlynedd o fynd â pherfformiadau cerddoriaeth siambr o ansawdd uchel i gymunedau ledled gogledd Cymru, ac i nodi’r achlysur arbennig hwn maent yn gofyn i chi chwarae eich rhan yn eu Her Rhoi Mawr y Nadolig.

Dewiswyd y grŵp cerddoriaeth glasurol sydd wedi ei leoli ym Mangor o blith miloedd o elusennau eraill i gymryd rhan yn ymgyrch gyllido gyfatebol ar-lein fwyaf y DU, y Rhoi Mawr, sy’n dyblu’r rhoddion a roddir yn ystod cyfnod o 72 awr yr wythnos nesaf.

Mae addewid o £5,000 eisoes wedi cael ei godi gan Ensemble Cymru ond yr unig ffordd i ddatgloi’r arian hwn yw trwy roi rhoddion ar-lein trwy wefan y Rhoi Mawr www.thebiggive.org.uk rhwng 12pm ddydd Mawrth 29 Tachwedd tan 12pm ddydd Gwener 2 Rhagfyr. Felly, am bob punt a roddir, caiff £1 arall ei ddatgloi o’r pot addewid gan ddyblu’r rhodd wreiddiol.

Ond nid arian fydd yr unig beth a gaiff ei ddatgloi drwy roddion ar-lein; Mae cerddorion enwog Ensemble Cymru, yn cynnwys y delynores frenhinol Anne Denholm, wedi recordio negeseuon a pherfformiadau personol arbennig gaiff eu rhyddhau ar dudalennau Facebook a  Twitter yr elusen wrth i dargedau’r rhoddion gael eu cyrraedd.

big-give-postcard-2016Yn ogystal â cherddoriaeth ar-lein, bydd Ensemble Cymru hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio yn:

  • Venue Cymru yn Llandudno ddydd Mawrth 29 Tachwedd 11:30am – 1pm
  • Dydd Mercher 30 Tachwedd, 10:30am -12pm yn Pontio ym Mangor

Bydd safleoedd cyfrannu wedi eu sefydlu lle gall cefnogwyr roi ar-lein ynghyd â cherddoriaeth gan gerddorion Ensemble Cymru.

Meddai Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, wrth sôn am eu cynlluniau at y dyfodol:

“Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf rydym wedi cael ein calonogi bob amser gan haelioni’r cyhoedd. O ganlyniad i hyn, mae degau o filoedd o bobl o bob oed yng Nghymru wedi gallu mwynhau perfformiadau byw o gerddoriaeth ysbrydoledig iawn. Rydym eisiau mynd â phethau ymhellach yn y 15 mlynedd nesaf gyda’r bwriad o ddatgloi’r gerddoriaeth hon i gannoedd o filoedd eraill o bobl o bob oed ym mhob rhan o Gymru, pwy bynnag a lle bynnag y bônt, boed mewn cymuned, canolfan siopa, capel, neuadd ysgol neu neuadd gyngherddau. Ar ran pob un ohonom, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am beth bynnag y gallant ei roi i’n helpu wrth i ni ddechrau’r dasg o wireddu’r freuddwyd hon.”

Os gallwch gefnogi ymgyrch Rhoi Mawr Ensemble Cymru, ewch i ein tudalen ‘Big Give’ i gael rhagor o wybodaeth www.ensemble.cymru neu cysylltwch ag Angharad Hywel, Swyddog Datblygu Ensemble Cymru ar 01248 719 503 neu anfonwch e-bost at angharad@ensemble.co.uk

Posted on

Derbyn i’r Big Give!

Mae Ensemble Cymru yn hynod o falch iddo gael ei dderbyn i fod yn rhan o Her Nadolig y Big Give eleni! Mae’r Big Give yn gynllun blynyddol ar gyfer cyllid cyfatebol a gynhelir bob Rhagfyr, gan roi llwyfan i 9,500 o elusennau godi arian a chyfle iddynt arddangos eu gwaith.

Sut i gymryd rhan

Mae’r Big Give yn gwneud i’ch rhodd fynd ymhellach. Gellwch roi o 10am ddydd Iau 5 Rhagfyr 2014, a pharheir i gyfrannu cyllid cyfatebol i’ch rhoddion ar 5 a 6 Rhagfyr.

Darllenwch fwy Derbyn i’r Big Give!